Cwpan Cymru

Cwpan Cymru

Mae Cwpan Cymru yn gystadleuaeth ddileu pêl-droed flynyddol sydd yn agored i dimau o Gymru.

Rheolir y gystadleuaeth gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru ac fe gynhaliwyd y gystadleuaeth gyntaf ym 1877-78 sy'n golygu mai dim ond Cwpan Lloegr a Chwpan yr Alban sy'n hŷn na Chwpan Cymru yn y byd pêl-droed.[1]

Ers 1961 cafodd yr enillwyr wahoddiad i gystadlu yng Nghwpan Enillwyr Cwpanau Ewrop hyd nes i Uefa ddiddymu'r gystadleuaeth ym 1999, ers hynny mae'r clwb buddugol yn cael gwahoddiad i gynrychioli Cymru yng Nghynghrair Europa.

Hyd at 1995, pan fu clybiau o Loegr yn cystadlu, nid oedd clybiau Seisnig yn cael cynrychioli Cymru yng nghystadlaethau Uefa felly petai clwb o Loegr yn ennill, y clwb Cymreig gollodd yn y rownd derfynol fyddai'n derbyn gwahoddiad i chwarae yng Nghwpan Enillwyr Cwpanau Ewrop.

  1. Chris and Kit make Welsh Cup Semi-Final Draw[dolen marw] Gwefan Cymdeithas Bêl-droed Cymru (Saesneg)

© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search